Yn ddiweddar, fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrthod cynnig a oedd yn galw ar y parc i gefnu ar yr enw Saesneg Snowdon am yr Wyddfa, a’r enw Snowdonia am Eryri yng Ngwynedd.

Dadl mwyafrif o aelodau’r Awdurdod yw bod gweithgor eisoes wedi ei sefydlu i ymchwilio i Seisnigeiddio enwau lleoedd Eryri.