Yr etholiad sy’n mynd â’r sylw. Nid oherwydd ei fod mor gyffrous ond oherwydd ei fod mor ddisymud. Ar ôl cwpwl o bolau piniwn mwy annisgwyl, mae’r arolwg baromedr yn ôl ar dir cyfarwydd a Roger Awan-Scully yn ei ddadansoddi …

“Yr hyn y gallwn i ei ddweud gyda pheth hyder… yw bod Llafur ar y blaen. Mae ein pôl newydd hefyd yn awgrymu cystadleuaeth glos iawn am yr ail le rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Does yna ddim newyddion da o hyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ein harolygon baromedr. Ond i blaid Diddymu’r Cynulliad, ac efallai i’r Gwyrddion hefyd, mae ennill peth cynrychiolaeth yn y Senedd nesa’n ymddangos yn uchelgais realistig.” (blogs/cardiff.ac.uk)

Sŵn gobaith yn fwy na sicrwydd sydd yn ymgais Ifan Morgan Jones i sbarduno ychydig o ddiddordeb ar nation.cymru…

“…mae yna lawer o bethau na wyddon ni mohonyn nhw yn yr etholiad yma, er enghraifft ble’r aiff y bleidlais gafodd UKIP yn 2016, [ac mae] lot o anghytuno yn yr arolygon tros ba mor dda y bydd Llafur a’r Ceidwadwyr yn gwneud, llawer o ansefydlogrwydd gwleidyddol yn San Steffan a hefyd bodolaeth amryw o bleidiau llai fel Propel, Gwlad, Reform UK a Diddymu nad oedden nhw’n bod neu ddim yn cyfri’ i’r un graddau yn 2016. Yn 2016, wnaeth y seddi lle’r oedd y sylwebwyr yn disgwyl newid ddim newid, ond fe wnaeth yr un nad oedden nhw’n ei disgwyl – Y Rhondda. Felly efallai y bydd ambell syndod.” (nation.cymru)

Dydi Theo Davies-Lewis ar thenational.wales ddim yn disgwyl gormod o newid chwaith …

“Yn lle bowns y brechlyn, mae Ceidwadwyr Cymru bellach yn ddi-drefn ac yn methu â sgorio gyda negeseuon na hyd yn oed gofio manylion polisi…yn y cyfamser, mae Plaid Cymru’n ennill tir ond does gan y blaid ddim cweit yr hud yr oedd Adam Price i fod i’w gynnig …” 

Mae yna rai yn gwaredu at gyflwr gwleidyddiaeth ei hun. Hen arweinydd newydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew R T Davies, ydi targed John Dixon, efo’i ymlyniad ci-aidd i’w arweinydd yn Llundain …

“Hyd yn oed os yw Johnson yn dweud un peth un diwrnod, a’r gwrthwyneb y diwrnod wedyn, mae e’n dal i fod yn wirebol o gywir ar y ddau achlysur yn y Daviesfyd. Fel unrhyw filwr troed da, mae Davies yn deall mai dim ond dwy reol sydd yna ynghylch y Cadfridog:

Rheol 1: Mae’r Cadfridog wastad yn gywir; a Rheol 2: Os yw’r Cadfridog yn anghywir, mae Rheol 1 uwchlaw yn gymwys..” (borthlas.blogspot.com)

A draw yn yr Alban ar wefan bellacaledonia.org.uk mae Mike Small yn gwaredu at y dewis sy’n wynebu’r bobol …

“Mae’r Ceidwadwyr wedi cyfnewid negeseuon cariad am fygythiadau o garchar cyfansoddiadol. Mae Cenedlaetholwyr wedi troi o wfftio syniadau o baent rhyfel a Bannockburn i’w gorchuddio’u hunain yn y stwff. Y cynnig gan Brydain [cyn Brexit]…oedd ‘arhoswch mewn undeb blaengar – gwladwriaeth gosmopolitaidd, aml-ddiwylliant wrth galon Ewrop’. Y cynnig nawr yw ‘arhoswch mewn Undeb sydd wedi cael gwared ar dramorwyr a chilio o Ewrop.”