Druan â Wrecsam! Mae gwleidyddion wedi bod yn heidio fel pryfed yno yn ddiweddar.

Lansiodd y Ceidwadwyr eu maniffesto yn y dref ddechrau’r wythnos ddiwetha’, ac mi ymwelodd Keir Starmer rai diwrnodau yn ddiweddarach.

I goroni’r cyfan aeth Boris Johnson am drip bach yno’r wythnos hon.