Yn enwog fel man geni’r Cymro Cymraeg diwethaf i fod yn Brif Weinidog Prydain, mae criw menter gymunedol eisiau denu Cymry i fwynhau gwyliau mewn hen gapel a thafarn ym mhentref Llanystumdwy, a dysgu mwy am fro Lloyd George…

Mae’r fenter gymunedol sydd eisoes wedi prynu eu tafarn leol Y Plu ym mhentref Llanystumdwy yn Eifionydd, bellach wedi dod ynghyd i brynu hen gapel wrth ymyl y dafarn a’i droi’n llety gwyliau hunan ddarpar.