Mae’n naturiol fod y rhan fwya’ o’r pleidiau gwleidyddol yn dweud mai prif angen y funud ydi adfer pethau yn sgil y pandemig Covid.

O ran cryfhau’r economi a gosod addysg yn ôl ar dir cadarn – heb sôn am ddatrys rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd – mae’n amlwg fod yna waith anferthol i’w wneud.

Ond mae yna un cwestiwn yn codi ynghylch y rheiny i gyd: i ba raddau y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu dylanwadu yn y gwahanol feysydd ac i ba raddau y mae hynny’n ddibynnol ar Lywodraeth San Steffan?