Mae Kev wedi colli popeth yn ei fywyd o leiaf unwaith.

Ei fam, i ddechrau, a fu farw ar ddiwrnod anarferol o oer ddeuddydd cyn ffeinal yr FA Cup yn 1986. Wedyn ei Dad, mewn ffordd wahanol, a lithrodd yn araf o afael Kev i aelwyd gynnes teulu newydd, oedd yn gwerthu peint o chwerw am 85c ac yn gadael iddo fo aros ymhell ar ôl y gloch last orders.