Mae Prif Weithredwraig Grŵp Cynefin am fynd â’r gymdeithas dai “yn ôl at ein gwreiddiau”…

 Yn gweithio ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys, mae Grŵp Cynefin yn gyfrifol am 4,600 o dai a bron i 300 o staff sydd i gyd yn siaradwyr Cymraeg.

“Mae hyrwyddo a gwarchod y Gymraeg yn rhan o’n cenhadaeth ni,” meddai Prif Weithredwraig Grŵp Cynefin ar ei phen.

Un o Ben Llŷn yw Shan Lloyd Williams ac felly dyw hi fawr o syndod bod cefn gwlad yn agos at ei chalon.