Mae gwylio perthynas “seiciatrydd gwaetha’r byd” a mam fregus wedi plesio’r cyn-gynhyrchydd teledu. Wel, i raddau…
Mae prif gymeriadau’r ddwy gyfres dw i wedi’u gwylio’r wythnos hon yn ferched. Yn fwy anghyffredin fyth, mae merched yn amlwg tu ôl i’r camera ac ar yr ochr olygyddol hefyd. Mae’r ddwy hefyd wedi’u haddasu o nofelau: Too Close gan Natalie Daniels a The Flight Attendant gan Chris Bohjalian. Ac mae’r ddwy wedi mynd ar fy nerfau fi, gwneud imi deimlo fel rhoi’r gorau i wylio ar ôl pennod, dyfalbarhau ac wedyn cael fy mhlesio (i wahanol raddau).
Mae Too Close (ITV) yn cychwyn gyda dynes wyllt yr olwg yn gyrru car oddi ar bont uchel i’r dŵr, efo dwy ferch fach ar y sêt gefn. Flashback oedd y ddamwain oedd yn rhoi cyd-destun inni’n syth pan fo Emily Watson, sy’n chwarae rhan Emma, seiciatrydd fforensig, yn derbyn y dasg o ddarganfod p’un a yw Connie (Denise Gough), y ddynes wyllt yr olwg, yn dweud y gwir neu’n smalio wrth honni nad ydy hi’n cofio dim am y ‘ddamwain’. A oedd hi wedi gyrru’r car dros ochr y bont ar bwrpas i drïo lladd y tair ohonynt, neu a oedd hi yn dioddef o afiechyd meddwl? Dros y tair pennod rydan ni’n gweld Emma yn holi a Connie’n osgoi ateb, neu’n troi’r cwestiwn yn ôl at y seiciatrydd, ac yn holi a stilio yn ei thro i danseilio a dod o hyd i fannau gwan Emma, ac rydan ninnau’n gweld sut mae hynny’n dechrau cael effaith arni.
A dyna pam y bu ond y dim imi stopio gwylio – roedd Emma yn fy nharo fel seiciatrydd gwaetha’r byd, yn gadael i Connie effeithio fel hyn arni. Roedd gemau Connie, a‘r ffordd roedd hi’n trïo tanseilio’i seiciatrydd jest mor amlwg! Roeddwn yn cael trafferth derbyn y byddai unrhyw seiciatrydd gwerth ei halen yn syrthio i’r fagl hon, heb sôn am adael ei bag a’i siaced o gwmpas i unrhyw glaf fynd i fusnesu â nhw fel gwnaeth Emma… Mi ges i fy hyfforddi ddegawdau’n ôl i beidio â gwneud hynny, a dim ond trafod plant oedd ddim isio bod yn yr ysgol ro’n i, nid llofruddwyr (posibl). Gwnaeth y sgript ymgais i esbonio ffaeleddau Emma drwy sefydlu ei bod hi a’i gŵr wedi cytuno y byddai’n gweithio llai ac nad oedd hi ar ei chryfaf oherwydd digwyddiad yn ei chefndir hithau.
Er gwaethaf hyn, ro’n i’n dal yn flin na wnaeth hi ddim o’r pethau mae seiciatryddion i fod i’w gwneud os ydyn nhw’n teimlo eu bod yn mynd yn ‘rhy agos’ – roedd ei hunig ymgais i dynnu’n ôl yn teimlo’n tokenistic braidd o ystyried iddi fynd ‘Ia, oce ta’ yn syth pan brotestiodd Connie nad oedd hi eisiau neb arall. Ond dw i’n hollti blew rŵan, mae hon yn gyfres dda.
Roedd y stori’n troi a throsi wrth inni gael chwaneg o wybodaeth am Emma a Connie dros y tair rhaglen, ond mi gydiodd y stori a’r sefyllfa achos fy mod wedi cael cyd-destun clir o’r dechrau. Ro’n i wedi gweld y ddamwain. Ro’n i’n gwybod beth oedd tasg y seiciatrydd, ac oherwydd hynny ro’n i’n gallu dysgu mwy a newid fy meddwl ar yr un pryd â’r cymeriad achos roedden ni (rhybudd: cliché) ar yr un daith, ac er nad oedd hi’n daith hawdd, roedd yn un werth chweil. Synnwn i ddim gweld Denise Gough yn cael BAFTA am ei pherfformiad fel Connie’r flwyddyn nesaf.
Comedi am lofruddiaeth
Mae The Flight Attendant (Sky One) yn gyfres uchelgeisiol. Mae addasu nofel gomedi am lofruddiaeth ar gyfer y sgrin yn ddifrifol o anodd. Mae unrhyw fylchau ym mhlot y nofel yn cael eu hamlygu pan rydan ni’n gwylio chwedl yn hytrach na darllen. Ac ar ben troeon (rhai da, rhai ddim cystal) y plot, mae’n rhaid derbyn bod y boi gafodd ei ladd yn ymddangos i Cassie, y prif gymeriad, a thrafod ei lofruddiaeth efo hi (cymerwch wynt a chofiwch Con Passionate), mae’n llawn flashbacks (fel Too Close) ac mae’r gyfres yn trïo cyflawni tric anodd iawn, sef cyflwyno cymeriad sy’n edrych yn laff a llawn glamour a joie de vivre inni a gofyn inni newid ein meddyliau amdani, ac felly weld pethau â llygaid newydd. Mae’r gyfres yn gwneud hyn tra bod y prif gymeriad yn (a) trïo dianc o Wlad Thai heb gael ei harestio (b) trïo profi nad hi laddodd y boi y cysgodd hi gydag o (c) osgoi cael ei lladd gan y llofrudd (d) delio efo ymweliad gan ei brawd. I gyd tra’n yfed galwyn (o leiaf) o fodca y dydd.
Roedd Cassie’n ddifrifol o annoying ar brydiau, mi oedd y sub-plot efo Rosie Perez yn bodoli i gyfiawnhau moment deus ex machina (h.y. achubiaeth gyfleus iawn), ac mi oedd y newid yn y tôn yn anodd. Ond er ei bod hi’n gymysgedd llwyr o’r sili a’r dwys a’r hollol anghredadwy, mi wnaeth fy nifyrru ddigon imi wylio’r cwbl lot mewn pedwar diwrnod.