Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tenor adnabyddus Aled Hall wedi bod yn brysur yn tynnu ffotograffau trawiadol o’r ardal o gwmpas ei gartref yn Nol-gran ger Pencader, Sir Gaerfyrddin.

Dyma’r llun trawiadol a dynnodd ar ei ymweliad cynta’ erioed â phenrhyn hardd Pen Caer ger Abergwaun yn Sir Benfro. “Nefoedd yn wir,” oedd ei neges ar Twitter.