Wel, a bod yn hollol onest, dw i’n credu y galle’r ymateb i farwolaeth Tywysog Philip wedi bod lot gwa’th. Dw i ’di darllen digon am ‘London Bridge is Down’ – y codename ar gyfer y cynllun gweithredu ar farwolaeth Brenhines Lloegr – fel ’mod i ’di hanner disgwyl hyd yn oed mwy o ffys a ffwdan ar y cyfryngau. (Y manylyn mwyaf diddorol am ‘London Bridge is Down’, falle, yw’r si fod gan The Times werth 11 diwrnod o gynnwys yn barod i fynd.)