Mae yna griw newydd ar y sin sy’n creu hip-hop Cymraeg gyda Mr Phormula…

 Mae samplo hen recordiau er mwyn creu trac sain newydd wedi bod yn digwydd ers y 1980au.

Byddai’r arloeswyr draw yn America yn cymryd darnau penodol o gerddoriaeth roc, disco, ffync a soul, er mwyn creu cân newydd gyda rapiwr yn aml yn llefaru ei efengyl dros y cyfanwaith.