Mae Rhodri Jones wedi sgrifennu llyfr am yr iselder a brofodd tra roedd yn chwaraewr pêl-droed.

Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Manchester United yn y 1990au, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, pan oedd Syr Alex Ferguson, Ryan Giggs a David Beckham yn teyrnasu yn Old Trafford.