Rwy’n cofio, amser maith yn ôl, dewis o dair sianel deledu: BBC1, BBC2 a TWW. A’r cyfan, wrth gwrs, mewn du a gwyn.

A pe byddech am wylio cyfres (megis The Forsyte Saga) doedd dim i’w wneud ar ôl gwylio’r bennod gyntaf ond aros wythnos cyn gweld yr ail. A druan â chi os oedd angen i chi adael y lolfa am funud, canys nid oedd y botwm pause wedi ei ddyfeisio bryd hynny.

A’r unig box-set ar gael oedd bocs cardfwrdd yn cynnwys nofelau Sherlock Holmes.