Cyn-gyflwynydd sioe gacennau yn cefnogi Llafur yn y Rhondda

Mae ymhell dros 10 miliwn yn gwylio The Great British Bake Off, ac mae yn un o gyfresi teledu mwya’ poblogaidd gwledydd Prydain.

Bu Sue Perkins yn cyflwyno’r sioe am flynyddoedd, a bellach mae hi’n un o’r selebs sy’n hoffi cefnogi ymgeiswyr y blaid Lafur.