Nid yw cymeriadau cyfres ddrama ddiweddara’ S4C wedi cydio, meddai’r cyn-gynhyrchydd teledu Siân Jones…

Bloodlands

Roedd pennod olaf Bloodlands (BBC 1) yn siomedig. Cafodd y dirgelwch ei ddatrys yn rhy hawdd a braenarwyd y tir ar gyfer cyfres arall yn rhy amlwg. Cofiwch, roedd yn grêt gweld y Wyddeleg yn cael ei defnyddio, er y bydd yr amgylchiadau wedi cynyddu paranoia’r Undebwyr amdani’n ddi-os.

Doedd pennod olaf Unforgotten (ITV), ar y llaw arall, ddim yn siom. Doedd yr ‘whodunnit’ ddim cystal ag yn y cyfresi blaenorol, ond (rhybudd: spoiler) roedd effaith emosiynol y bennod yn bwerus iawn ac wedi gadael sawl un yn eu dagrau. Ffarwel i Cassie a diolch i Gillian Walker am greu cymeriad gwych arall. Dw i’n edrych ymlaen at y gyfres nesaf â Sanjeev Bhaskar yn brif gymeriad.

Bregus (S4C), yw cyfres ddiweddaraf Ed Thomas. Fel gyda’i holl gyfresi blaenorol, mae wedi’i ffilmio’n hardd ac mae pob un wan jac o’r criw wedi haeddu pob dimai o’u cyflog. Mae’r holl adrannau technegol a chreadigol – camera, sain, lleoliadau, gwisgo setiau, goleuo, gwisgoedd, colur etc wedi rhoi sglein ar y cynhyrchiad gan roi’r argraff ei fod wedi costio llawer mwy ag a wnaeth i’w wneud.  Mae proffesiynoldeb ac ansawdd gwaith criwiau o Gymru heb ei ail.

Ond fydda i ddim yn gwylio rhagor ohoni.

Mae hi jest rhy weird gen i. Dw i ddim yn ffan o ddramâu/cyfresi sy’n fy ngadael yn deall dim o beth sy’n mynd ymlaen ac yn anffodus (i mi) mae comisiynwyr gwahanol yn S4C wedi dangos dros y blynyddoedd eu bod nhw yn ffans o’r arddull hwn o ddweud

Unforgotten

stori. Neu, fel dw i’n ei weld, yr arddull hwn o beidio â dweud stori ac sy’n disgwyl i’r gwyliwr fwynhau bod yn conffiwsd a bored. Dydy cymeriadau yn bod yn enigmatic ac yn gwneud ati i fod yn weird jest er mwyn bod yn weird ddim yn codi fy chwilfrydedd i, dydyn nhw ddim yn gwneud imi falio’r un botwm corn am yr un o’r cymeriadau, na bod eisiau gwneud yr ymdrech i ddod i’w hadnabod yn well nac i ddeall beth ddiawl sy’n mynd ymlaen.

Dw i’n teimlo fel hyn am Bregus er gwaetha’r ffaith bod yr actorion yn amlwg yn actio ffŵl sbîd, ac yn gweithio’n galed i greu cymeriad, i greu argraff, i greu diddordeb. Ond falle bod hyn yn rhan o’r broblem, fy mod mor ymwybodol mai actio maen nhw? Dydw i ddim wedi gallu cymryd y cam hwnnw rydan ni’n ei chymryd wrth ymgolli mewn stori ac ymroi i falio am gymeriad, o ‘anghofio’ mai actorion ydyn nhw a chytuno i ‘gredu’.

Dim cnawd ar esgyrn y cymeriadau

Er enghraifft, yn hytrach na dangos golygfa parti normal, roedd parti di-eiriau Ellie yn edrych fel ymarfer Coleg Cerdd a Drama – “Dw i isio i chi actio criw o ffrindiau cyfoes, proffesiynolion ifanc, urban, gyda rhai yn fwy cŵl na’i gilydd.” A dyna gawson ni. Ond ni fethais ag anghofio mai actio oeddan nhw – ddim am eiliad.  Mae rhywbeth o’i le ar y balans yma, gormod o eiriau yn y fflat ymhlith pethau tad Ellie, a dim digon mewn lleoedd eraill. Weithiau dydy jest peidio â defnyddio geiriau ddim yn llwyddo i greu cymeriad. Mae angen ychydig mwy ar y gynulleidfa ac ar yr actorion. Mae rhai wedi cael cyn lleied o esgyrn i weithio â nhw, maen anodd iddyn nhw allu rhoi cnawd ar y rheiny a dod â’u cymeriadau’n fyw.

Gallwch wrth gwrs ddechrau cyfres fel hyn a rhoi gwybodaeth o ddipyn i beth i’r gwylwyr sydd ei angen i ddod i adnabod cymeriadau, deall eu sefyllfa, gwybod beth maen nhw ei eisiau a beth sy’n eu rhwystro rhag ei gael. Hynny yw, rhoi digon o wybodaeth i’r gwyliwr allu malio am gymeriad a chymryd diddordeb yn y ffordd y mae’n delio (neu beidio) â’r rhwystrau sydd rhyngddo ef a’r hyn mae o ei eisiau. Ond, yn bersonol, mae’n rhaid i mi gael digon o wybodaeth erbyn diwedd y bennod gyntaf, fan bellaf, i wybod beth yw siâp y stori, i wybod pam mae cymeriadau’n ymddwyn fel y maen nhw, i gael rheswm i barhau i wylio. Heb hynny, ddof i ddim yn ôl am ail bennod, waeth pa mor dda yw’r gwaith camera ac ati.

Yn anffodus, mae Bregus fel petai’n meddwl bod onglau camera anarferol a chymeriadau sy’n syth allan o lawlyfr Cool Cymru: siaradwyr Cymraeg ifanc trefol 101 yn ddigon. Bod gwylwyr yn mynd i fopio am y gyfres a methu ag aros i weld pa dameidiau o wybodaeth y bydd yr awduron/cyfarwyddwr yn eu rhoi inni i gynnal ein diddordeb. Ac efallai, wir, fod pawb arall yng Nghymru yn teimlo felly. A dw i’n siŵr na fydd yr un ffadan o ots gan dîm creadigol Bregus bod rhywun mor bourgeois ac uncool â fi ddim yn gwylio: nid fi yw eu cynulleidfa darged. Y trueni iddyn nhw, i mi, ac i’r sianel yw mai fi a fy nhebyg yw rhan helaeth o gynulleidfa S4C.