Mae awdur llyfr newydd yn gobeithio helpu addysgu plant Cymru am eu hanes nhw’u hunain, heb guddio’r gwir …

“Ro’n i eisio sgwennu llyfr a oedd yn cynnwys rhai o’r straeon amlycaf yn ein hanes ni.”

Dyna eiriau Ifan Morgan Jones, yr awdur a’r darlithydd Newyddiaduraeth, wrth drafod ei lyfr diweddaraf, sef 10 Stori o Hanes Cymru, sydd wedi ei anelu at blant a phobol ifanc.