Dydy prif dalent Chris Gunter ddim yn amlwg. Dydy o ddim yn gyflym iawn, na’r cryfaf yn y dacl. Dydy o ddim yn arbennig o dda yn yr awyr, a does ganddo ddim llond sach o sgiliau â’r bêl wrth ei draed. Dydy o ddim yn sgorio goliau na chreu llawer o gyfleon. Mae prif dalentau Gunter yn anweledig – maen nhw yn ei feddwl. Mae o’n ffyddlon, yn drefnus ac yn barod i ddilyn cyfarwyddiadau i’r eithaf.