Y cennin Pedr a’r tiwlips a’r blodau bach pinc oedd yn drwch dros y goeden geirios ar waelod yr ardd. Y borderi bach a’r perthi gwyrddion, a’r llysiau’n chwyddo bob dydd yn y tŷ gwydr rownd yr ochr. Wrth iddo osod y cadeiriau allan ar y patïo, sylweddolodd Dafydd ei fod o wedi bod yn gweithio ar yr ardd yma ers dros ddeugain mlynedd. Dim ond rwan oedd hi’n deffro ar ôl gaeafgysgu, ac fel y byddai’n gwneud bob blwyddyn gyda’r gwanwyn, syrthiodd Dafydd mewn cariad â hi unwaith eto.