Rwy’n cofio Jeremy Clarkson yn gwneud darn ar Top Gear am y Ford Mondeo newydd.

Beth bynnag yw eich barn am Mr Clarkson, roedd y darn yn dipyn o glasur. Mor brin oedd ei awydd i drafod y car (gan ei fod mor ddiflas ac anniddorol) fe dreuliodd ddeng munud yn sefyll wrth y Mondeo tra’n sôn am y tywydd, y tirwedd lleol, ei hoff fwyd, ei wyliau… unrhyw beth ond y car.