Flwyddyn yn ôl, roedd llawer ohonon n’n gwaredu at y bobol oedd yn gor-brynu pys, pasta a phapur tŷ bach. Roedden ni’n eu gweld nhw’n farus a dienaid.

Roedd hi’n waeth byth o wybod nad oedd pobol heb gymaint o fodd yn gallu fforddio gwario i wagio’r silffoedd ac mai nhw fyddai’n mynd heb fwyd.

Dydi’r ddwy sefyllfa ddim yn union yr un peth, ond mae hynna’n cynnig ffordd arall o edrych ar y ddadl ryngwladol ynghylch cyflenwadau brechlyn.