Rwyf wrth fy modd yn darllen am hanes y byd.

Ac, ew! Mae yna gymaint i’w ddysgu!

Yn ystod cyfnodau clo’r pla rwyf wedi darllen am fywyd Stalin a Pol Pot; streic fawr y glöwyr, Putin; datblygiad China; cyfnod Andrew Neil yn olygydd y Sunday Times; bywgraffiad meistrolgar Andrew Roberts am Churchill; campwaith Volker Ullrich am Hitler ac, yn aros amdanaf, tair cyfrol Charles Moore am Margaret Thatcher a hunangofiant Barrack Obama.