Fi wedi gweld y lluniau, wrth gwrs. Dyn gwenog, braidd yn anniben yr olwg oedd e. Fi wedi edrych ar yr hoel adawodd e ar y We, yr holl hen wefannau – facebook, instagram, tiktok – a co’ fe, mewn selfie ar ben mynydd yn ôl yn 2007, ac ar benwythnos rygbi ’da’r bois mas yn Iwerddon yn 2016, ac yn was priodas i’w frawd yn 2018, yn rhoi araith, pawb yn y dorf yn gwenu arno fe. Wrth gwrs, fi’n treial gweld fy hunan yn ei wyneb e, gweld os ody ei lygaid e’n crychu’n hawdd fel fy rhai i, neu o