Mae casgliad newydd yn dathlu arfer pobol yr hen Sir Aberteifi o ganu barddoniaeth i glodfori bro…

… Heddiw, mae’n plant ar ’sgwyddau,

a’n cân sy’n eu bywiocáu

mewn bro sy’n ceincio encil

â phob cytgan a chân chwil.

Dyna ran o gerdd llawn anwyldeb gan y bardd Philippa Gibson i Ŵyl Nôl a Mla’n, yr ŵyl hafaidd a fyddai’n arfer digwydd ym mhentref Llangrannog bob haf, cyn i’r feirws roi taw ar bethau.