Mae canwr un o fandiau’r 1990au yn ôl ar y Sîn gydag “old school rock sy’n cicio tîn covid!”

Nôl yn y Naw Degau a dechrau’r Dim Dimau roedd y band Gwacamoli o Fôn yn gwneud eu gorau glas i adael eu marc ar y Sîn Roc Gymraeg.

Roedd caneuon cynnar fel ‘Chwarae gitâr mewn band roc a rôl’ ac ‘Asbestos Tescos’ yn ganeuon roc amrwd a hwyliog, ac yn ddiweddarach fe ddatblygodd y sŵn ac fe gafwyd caneuon swynol, tawelach ‘Cwmwl 9’ a ‘Dysgu nofio’.