Mae angen trawsnewid ein diwylliant gwleidyddol “yn llwyr” er mwyn rhoi diwedd ar ragfarn a chasineb yn erbyn menywod.

Dyna farn Aelod o’r Senedd sydd wedi cael ei galw yn “fuwch” gan wleidydd yn ddiweddar.

Cafodd agweddau dynion tuag at fenywod gryn sylw dros yn ddiweddar, ac yn ganolbwynt i’r cyfan mae llofruddiaeth Sarah Everard.