Fe ddaethon nhw ynghyd i gynnal gwylnos i gofio merch a laddwyd am y drosedd o fod ar ei phen ei hun gyda’r nos. Y bwriad oedd cadw pellter, gwisgo mygydau a galaru. Tynhaodd yr heddlu o’u hamgylch, eu gwasgu at ei gilydd a’u haflonyddu. Ond ni allai’r neges gan yr awdurdodau fod yn gliriach. Ni fydd hon ond y gyntaf o olygfeydd tebyg yn y Brydain fyd-eang sy’n dyfod.