Mesur y daith adref fesul cysgod. Mapio pob llecyn tywyll, tawel, nes fod y byd i gyd yn atlas isymwybodol o lefydd sydd ddim yn teimlo’n gwbl sâff, a llefydd sydd ddim yn teimlo’n sâff o gwbl.

Tynnu’r clustffonau allan o’n clustiau ar rai rhannau o’r llwybrau, er mwyn gallu clywed unrhyw sŵn traed yn brysio tuag atom o’r tu ôl. Clustfeinio o hyd, heb feddwl, rhag ofn.

Derbyn nad ni sy’n berchen ar ein cyrff, achos mewn clwb nos neu dafarn neu barti, byddwn yn sâff o gael ein cyffwrdd. Peidio ystyried camwedd y dyn sy’n gwthio’i gorff yn erbyn ein cyrff ni wrth i ni sefyll wrth y bar, yn ein caethiwo ni rhwng y pren a’r person. Peidio ystyried mor ddrwg ydi llaw dyn diarth yn crwydro dan hem sgert. Peidio ystyried, achos mai dyma sydd wedi digwydd inni erioed.

Dewis ein dillad yn ofalus, achos petai rhywbeth yn digwydd i ni, byddan nhw’n dweud mai ein bai ni ydi o am ddefnyddio ein bodolaeth i demptio. Gorchuddio’n siapiau, am fod cnawd a bronnau a phen ôl yn destun cywilydd, am mai merched ydym ni a ni sy’ pia cywilydd.

Smalio i bawb yn y gwaith fod gennym ni gariad, yn y gobaith na fydd y boi o’r swyddfa yn sefyll mor agos atom ni yn y lifft o hyn ymlaen.

Tecstio’r merched cyn mynd ar ddêt i ddweud pwy ydi o a lle ’da ni’n mynd, achos er ei fod o’n glên a’n bod ni wir yn licio’r un yma, ’da ni’n dal i gofio be’ ddigwyddodd i ni pan oeddan ni’n ddwy ar bymtheg. Maddau’n ddiamod i’r dyn wnaeth yr hyn wnaeth o pan oeddan ni’n ddwy ar bymtheg, achos ein bod ni’n ferched, ac i fod yn addfwyn a maddeugar a thrugareddog. Bydd o wedi hen anghofio, ond bydd yr atgof ohono ef yn bygwth ein mygu ni tra byddwn ni.

Teimlo’n euog am ein bod ni weithiau, am eiliad fer, yn teimlo ofn yng nghwmni rhywun caredig.

Clywed dro ar ôl tro ein bod ni un ai yn famol, ffeind, addfwyn neu’n nwydus, rywiol, gwyllt. Yn forwyn neu’n fudr. Deall ein bod ni i fod i wisgo’n ddel a chadw’n cyrff yn fain ac yn foel, ond fod y pethau hynny hefyd yn ein gwneud ni’n rhywiol. Yn beryglus o rywiol.

Deall ein bod ni i fod i dderbyn mai’n bai ni ydy’r trais yn ein herbyn.