Gwelwyd nifer o ddigwyddiadau dros y penwythnos diwethaf yn nodi 25 mlynedd ers y gyflafan erchyll mewn ysgol gynradd yn Dunblane, pan saethwyd 16 o blant bach a’u hathrawes i farwolaeth, a gadael 15 o blant ac oedolion eraill wedi eu hanafu.

Rywsut, ynghanol eu galar a’u poen, fe lwyddodd rhieni a theuluoedd Dunblane i redeg ymgyrch fawr yn galw ar Lywodraeth Dorïaidd y dydd i wahardd unigolion preifat rhag cadw drylliau llaw.