Mae’r cerddor wedi cyhoeddi ail albwm o ganeuon Samba, Salsa a Thropicalismo o’r enw Mas gyda’i broject, Rio 18. A bydd i’w glywed yn perfformio gyda Cherddorfa’r BBC ar Radio Cymru ddydd Sul nesa’ (21 Mawrth)…

Cân am beth yw ‘Lawr yn y ddinas’, y sengl oddi ar yr albwm newydd?

Mae hi’n sôn am yr oriau mân yn y bore, cyn i bawb ddihuno ar gyfer mynd i’r gwaith, a’r amser pan mae pawb yn cael eu taflu mas o’r clybie.