Ma’i bron yn flwyddyn ers i fi ga’l job Prif Olygydd Golwg a golwg360. Bron i flwyddyn ers i fi neidio ar drên hunllefus i Fangor a dal bws i Gaernarfon i gwrdd â rhai o’r staff. A cha’l ’y nghyfarch gan yr Is-olygydd yn dweud “Ia, broblem ydy de, da ni gyd yn gorfod mynd adra’ am locdawn, tydan?”

Ac felly ar ôl ambell ‘helo’ a ‘shw mae’, a chyri neis yn Caernarfon Tandoori, nôl a fi i Gaerdydd yn meddwl ‘shwt ma hyn yn mynd i w’itho de?’