Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe lwyddais i ’ngwneud fy hun yn hynod amhoblogaidd ymhlith rhai o ffans pêl-droed Cymru.

Ro’n i wedi ysgrifennu, yma yn Golwg, am y nifer fawr o weithwyr mudol oedd wedi marw wrth eu gwaith yn codi stadiwms a gosod seilwaith ar gyfer Cwpan Pêl-droed y Byd yn Qatar yn 2022.