‘Weeel, ni ’di delio ’da fe itha da ar y cyfan yndo?’ medde fi wrth y wraig wrth i’r teledu drafod sut i ddod mas o’r cyfyngiade.

Ond o’dd yr oedi cyn iddi ateb ‘oui’, a hynny’n ddigon ansicr, yn adrodd cyfrolau. ‘Naddo?’ medde fi. Tawelwch.

Ma’n wir bod y clo diweddara’ wedi bod tipyn anoddach na’r gweddill. Ma’i wedi bod yn slog, waeth inni fod yn onest.