Dyma fferm rhwng Abergwili a Nantgaredig yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, wedi ei hynysu gan ddŵr.

Bu gwleidyddion yn galw am wario mwy ar amddiffynfeydd i warchod cartrefi a busnesau rhag llifogydd yn dilyn penwythnos o law trwm.