Chwaraeodd Dylan Levitt ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn y Ffindir ym mis Medi’r llynedd. Ar ôl cyfnod aflwyddiannus ar fenthyg i Charlton o Manchester United, mae Levitt wedi cymryd y cam mawr o symud i Groatia i chwarae ei bêl-droed tan ddiwedd y tymor. Mae’n ymuno â FK Istra sydd ar waelod yr Uwchgynghrair. Rydw i’n dyfalu bod gan ei asiant, y Croat Ivan Omrcen, gysylltiad gyda’r clwb.