Mae chwaeth ffasiwn Boris Johnson a’i ddarpar wraig wedi cyffroi a drysu’r Twitter-sffêr Cymreig yr wythnos hon.

Dros y penwythnos mi gyhoeddodd The Times adroddiad am y ffraeo oddi fewn i ‘lys Brenin Harri’ y Prif Weinidog.

Ac ar ben y darn mae yna lun o Carrie Symonds, ei bartner, mewn het sydd â’r geiriau ‘Wales’ a ‘Cymru’ arni.