Chwiban.

Ar ryw gae pêl-droed yn rhywle sydd ddim mor bell â hynny o’r fan hyn, mae gêm newydd wedi dechrau. Dyma gêm olaf y gôl-geidwad, ac mae ganddo bâr newydd sbon o fenig am ei ddwylo blinedig.