Mae’r cyfnod pontio yn y broses Brexit wedi dod i ben yn swyddogol, a does neb yn hapusach am hynny na David TC Davies.

Roedd yna ofid y byddai 2021 yn dechrau gydag ergyd galed i’r stumog gan Brexit.

Ond mae’r byd yn dal i droi, ac i ddathlu hynny mae AS Sir Fynwy wedi rhannu ei orfoledd mewn colofn bapur newydd.

Yn dilyn blynyddoedd o “rybuddion iasol” mewn print ac ar y cyfryngau am effaith Brexit, mae’r AS Ceidwadol yn falch ei fod yn fyw ac yn iach.