Mae’r cyn-gynhyrchydd teledu wedi cael blas ar Bridgerton, The Great a The Serpent…

O ran y dramâu gwreiddiol dros y Nadolig, roedd Black Narcissus (BBC 1) yn siom. Roedd y lleoliadau a’r gwaith camera a dylunio yn wych ond doedd gan Mr Dean ddim hanner digon o charisma i wneud stori mor hen ffasiwn yn gredadwy, ac a dweud y gwir roedd yr un peth yn wir am y ddwy brif leian hefyd.