Dwi ddim yn hoff iawn o chware gemau.

Pe byddech yn gofyn i mi ymuno mewn gêm o Monopoly – byddwn yn ymateb rhywbeth fel hyn:

‘Na’.

Achos, y gwir amdani yw fy mod yn hen rwgnach annifyr – yn casáu unrhyw fath o hwyl a hapusrwydd. Well gennyf o lawer dreulio oriau’n sgwennu at y Daily Mail i gwyno am bobl ifanc ac ymddygiad yr SNP – tra’n ymgyrchu yn erbyn unrhyw beth newydd neu wahanol ar yr un pryd.