Ma nhw’n gweud, nagyn nhw, bo rhedwyr yn taro’r wal ar ôl tua 18-20 milltir wrth redeg marathon. Wel, os felly, fi’n credu bwres i’n wal bandemig bersonol dros y Dolig a’r Flwyddyn Newydd.

Fel wedodd ’y ngwraig ar Nos Galan, o bosib mewn ymgais i hala fi dros y dibyn: ‘Ma’n siŵr mai dyma’r flwyddyn newydd, a’r mis Ionawr, gwaetha’ ym mywydau’r rhan fwyaf ohonon ni’. ‘Cheers to that!’ medde fi’n bwdlyd.