Wel, mae’n flwyddyn newydd arnon ni.

Adeg i edrych ymlaen at y dyfodol. Ceisio gwireddu ambell addewid. Rhoi newid neu ddau ar waith. Cyflawni rhyw amcan neu’i gilydd. Gwneud iawn am ambell beth aeth o’i le yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

Neu dyna, efallai, fyddai’r drefn arferol i lawer ohonon ni’r adeg hon o’r flwyddyn.

Ond mae pethau’n wahanol eleni.