Wel, dyma ni. Blwyddyn Newydd Dda – wel ‘dda-ish’. Sut oedd eich Nadolig chithau? Falch ei fod e drosodd? Ie, fi ’fyd. Diolch byth ges i homar o anwyd a barodd am dridiau a hala fi i gael breuddwydion amheus iawn am lederhosen a gwefusau Michael Gove. Wnes i ddim meddwl am Covid. Wel, ddim ryw lawer. Mi fues i’n ryw hel atgofion am yr amser yma llynedd pan mai Corona i mi oedd y cwrw i’w yfed allan o’r botel gyda darn o leim yn ei geg, a lolipop amryliw oedd Zoom. Ac wrth gyfri’r munuda