Fel gymaint o bobl eraill, treuliodd fy meibion a fi oriau o flaen y teledu dros y penwythnos.

Roeddem yn llawn cyffro wrth wylio Gerwyn Price o bentref Markham, ger Caerffili, yn ennill Pencampwriaeth y Byd Dartiau.

Ar ei orau, does yna ddim byd gwell na dartiau, yn enwedig pan mae yna Gymro yn mynd am y brif wobr.