Mae’r negeseuon mwyaf diniwed eu golwg yn medru ennyn ymateb hallt ar Twitter, fel y gwelodd Robert Peston ddechrau’r wythnos.

Ef yw Golygydd Gwleidyddol ITV News, a dydd Llun mi drydarodd neges yn datgelu cynlluniau Llywodraeth Boris Johnson.

“Mae’r Prif Weinidog yn annerch y genedl am wyth heno,” meddai. “Bydd y senedd yn cael ei galw yn ôl ddydd Mercher. Bydd cyhoeddiad am gyfnod clo cenedlaethol caled.”