Ddwy flynedd ers iddyn nhw orfod gadael eu cartrefi oherwydd llifogydd yng Nghastell Newydd Emlyn, mae Jill Sutton a’i thad Pete, sy’n 92 oed, wedi ymddangos mewn fideo Gwrthryfel Difodiant ledled y byd.

Fe gawson nhw eu gweld ar sgriniau o Moscow i Mumbai, yn galw am weithredu ar fater cynhesu byd eang a newid hinsawdd.