A hithau yn cynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionydd yn San Steffan ers 2015, yn ddiweddar mae Elizabeth Saville Roberts wedi ennill gwobr am ei gwaith.
Mae wedi gwneud ei marc yn y siambr wrth arwain Plaid Cymru, ac mae i’w gweld yn aml ar newyddion y sianeli Prydeinig yn gofyn cwestiwn pigog i’r Prif Weinidog, Boris Johnson.
Yn gydnabyddiaeth am ei gwaith mae wedi ennill gwobr ‘Aelod Seneddol y Flwyddyn o Bleidiau Eraill’ y Sefydliad Patchwork eleni.
Bydd rhai yn synnu o glywed nad un wedi ei geni yng Nghymru yw’r AS sydd â llond ceg o Gymraeg, ac mai Saesneg yw ei mamiaith.
Cafodd ei magu yn Eltham, Llundain; ac mae ei gwreiddiau teuluol oll yn ne Lloegr. “O ran teulu, does dim cysylltiad â Chymru o gwbl,” meddai.
Symudodd i Aberystwyth yn 18 oed – a hynny heb air o Gymraeg – i ddilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd yn y brifysgol, a chafodd ei hysgogi i fynd yno gan chwedloniaeth Cymru.
“Mae’n dod o ddarllen y Mabinogi,” meddai. “Ges i gopi o’r Mabinogi gan fy nhad. Ges i hwnna pan oeddwn i tua 15 oed… Llyfr ail law. Roeddwn i jest wedi gwirioni ar yr hanesion.”
Mi sgwennodd draethawd estynedig am y Mabinogi cyn mynd i’r brifysgol, ac felly “magwyd diddordeb, a wnes i benderfynu fy mod i eisiau dysgu Cymraeg”.
Rhwng ei hen gopi o Teach Yourself Welsh a’r darlithoedd Astudiaethau Celtaidd mi ddysgodd Gymraeg – a rhywfaint o Wyddeleg hefyd.
Roedd dysgu’r iaith yn garreg filltir bwysig iawn iddi.
“Hwn ydy’r peth mawr dw i wedi ennill yn fy mywyd ac sydd wedi newid fy mywyd i,” meddai. “Y teimlad yn ieithyddol. Ac wrth gwrs, yn amlwg, mae andros o fanteision o fod yn ddwyieithog
“Gyda’r Saesneg, mae gennych chi [fynediad at] y miliynau o bobol sy’n siarad yr iaith, a’r cyfoeth sydd gan yr iaith yna ledled y byd.
“Ond o fod yn siaradwr Saesneg, mae eich cyfraniad i’r gymuned honna yn fach iawn. Fel unigolyn, rydych chi’n fach fach yn y byd hwnnw.
“Ond mae eich cyfraniad potensial chi i’r gymuned Gymraeg ei hiaith, fel unigolyn, wel, rydych chi’n gwybod bod gennych chi gyfraniad.”
Ar ôl graddio mi dreuliodd gyfnod yn mynychu cwrs ysgrifenyddol yng Ngholeg Ceredigion, cyn dychwelyd i Lundain am ddwy flynedd.
Yno bu’n ysgrifenyddes i’r adran Rwsieg yng Ngholeg Queen Mary a chafodd y cyfle i ddysgu ychydig o Rwsieg a theithio i Fosgo.
Yn ystod ei chyfnod yn Llundain bu hefyd ar gwrs sgwennu straeon i gylchgronau. Daeth pwynt yn y pen draw lle sylwodd na allai wadu ei hiraeth am Gymru.
“Roeddwn i’n wirioneddol yn meddwl: ‘Oce, dw i wedi bod i Gymru ac wedi dod yn ôl i Lundain. Rydw i wedi cyrraedd rhyw drobwynt. Ai yn Llundain yr wyf i’n mynd i fod am byth?’
“O fod wedi dysgu Cymraeg, roedd yna awydd i fynd yn ôl i Gymru.”
Cafodd swydd yn ohebydd gyda’r Holyhead & Anglesey Mail, a threuliodd flwyddyn yn byw yn Llanfair-yn-Neubwll ar arfordir Ynys Môn, tra’n gweithio yng Nghaergybi.
Tra’r oedd yn byw yn y gogledd bu iddi gwrdd â Dewi Wyn Roberts o Danygrisiau, a daeth yntau’n ŵr iddi.
Mae’r ddau wedi byw gyda’i gilydd ym Morfa Nefyn ers y 90au – ar ôl cyfnod yn Llithfaen – ac mae ganddyn nhw ddwy ferch, efeilliaid 28 oed – Lowri a Lisa.
Chwerthin wna Liz Saville Roberts wrth hel atgofion am fachu ei gŵr.
“Roedden ni wedi cwrdd mewn protest Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd,” meddai.
“Roedden wedi cwrdd tu allan i’r Swyddfa Gymreig pan oedd [yr ymgyrchydd enwog] Merêd Evans yn trio spray-io rhywbeth ar wal y Swyddfa Gymreig.
“A dw i’n cofio’r plismon yn aros yn ufudd i’r spray can yma weithio.
“Mi wnaeth o yn y diwedd, a chafodd o ei arestio! Felly wnes i gwrdd â Dewi yn y brotest honno. A dyma ni’n dechrau byw gyda’n gilydd.”
Daeth Liz Saville Roberts yn gynghorydd sir yng Ngwynedd tros ward Morfa Nefyn yn 2004, ac yn 2008 daeth yn gyfrifol am bortffolio addysg y sir.
Yna, yn 2015 fe gafodd ei hethol i olynu Elfyn Llwyd yn Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, ac yn yr etholiad diweddaraf flwyddyn yn ôl enillodd 48% o’r bleidlais, gan roi iddi stoncar o fwyafrif – 4,740.
Mae hi’n teimlo bod llawer o’i llwyddiant yn seiliedig ar anogaeth eraill, ac mae’n hynod ddiolchgar i’r rheiny â’i chefnogodd.
“O edrych yn ôl, doeddwn i ddim yn rhoi fy hun i fyny i wneud swyddi penodol nes bod rhywun yn awgrymu: ‘pam na wnei di drïo am hwnna?’” meddai.
“Ac mae’r hyder i feddwl dy fod yn gallu bod yn ffigwr amlwg, figurehead, yn arweinydd – doedd hynny ddim yn fy nharo i fel rhywbeth y bydden i’n ei wneud.
“Dw i’n ddiolchgar iawn i bobol ar hyd y cwrs sydd wedi gofyn i fi [sefyll etholiad].”
Yn y gorffennol mae’r AS wedi crybwyll apêl sefyll am sedd yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ac mae’n dweud bod y syniad yn dal i apelio.
Er hynny, mae ganddi deimladau cymysg ac mae’n dweud mai amser a ddengys lle eith ei gyrfa nesa’.
“Dw i ddim yn gwybod lle mae pethau’n mynd i fynd i’r dyfodol,” meddai.
Wrth drafod ei gwaith presennol, mae’n cyfaddef bod ganddi ddiddordeb unigryw sy’n llyncu ei hamser.
“Yn San Steffan, i basio amser, [dw i’n] ceisio cynganeddu yn Saesneg.
“Mae pobol yn meddwl fy mod yn gweithio am fy mod yn sgwennu pethau. Ond mewn gwirionedd dw i’n ceisio cyfri sillafau a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cyflythrennu yn gywir.”
Cyn heddiw, mae’r gynghanedd wedi ymddangos yn ei hareithiau a chwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Os fedra’ i fwydo cynghanedd i mewn i rywbeth yn Saesneg, mi wna’i fy ngorau!
“Mae’n gynghanedd sydd yn cynganeddu, yn hytrach na dweud rhyw ddoethineb mawr am y byd!”