Cafodd y Celfyddydau ergyd go drom eleni. O fis Mawrth, roedd taw ar y dramâu a’r gigs; bu’n rhaid gohirio arddangosfeydd Celf; ac ni chafodd y beirdd ymrysona. Ond fe gawson nhw gartref newydd ar y We, a dyma rai enwau cyfarwydd i sôn am eu pigion rhithiol ym mlwyddyn y pla…