Dw i ddim yn siŵr os ca’i eich gweld chi eto.

Dydan ni ddim yn dweud y geiriau yna, wrth gwrs, am mai smalio ydi’r peth mae pobol yn ei wneud orau. Yn well na gofalu, yn well na charu. Ac mae o’n bwysig, Dad, ein bod ni’n parhau i smalio rŵan. Mae’r gwir yn rhy amrwd.