Gŵydd efo sbeisys fydd ar fwrdd Nadolig y cogydd Chris ‘flamebaster’ Roberts eleni. Mae’r Cofi carismatig yn ôl ar S4C gyda chyfres goginio newydd dros y Dolig, sy’n edrych ar be’ oedd y Cymry yn ei fwyta yn yr hen ddyddiau…  

“Dw i ddim yn chef, jest boi sy’n cwcio efo tân, ac yn cael hwyl yn ei wneud o.”

Dyna sut mae Chris Roberts, y cogydd o Gaernarfon, yn disgrifio ei hun.