Os byddan nhw’n darllen rhyw lun ar hanes y cyfnod yma, mi fydd ein disgynyddion pell ni naill ai’n chwerthin neu’n crïo ar ein rhan ni.

Ynghanol yr argyfwng iechyd mwya’ ers o leia’ ganrif, a hwnnw’n arwain at yr argyfwng economaidd mwya’ mewn tair, mi fyddan nhw’n gweld bod Llywodraeth gwledydd Prydain a charfan go-lew o’i phoblogaeth eisio gwneud pethau’n waeth.